Julie James AS,

Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

 

 

 

21 Medi 2020

 

Annwyl Weinidog,

 

Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru)

 

Diolch am eich llythyr dyddiedig 27 Gorffennaf 2020, mewn perthynas â chanlyniad yr adolygiad ar sefydlu a gweithredu cyrff cydweithredol rhanbarthol. Trafododd y Pwyllgor eich llythyr yn ei gyfarfod ar 14 Medi 2020.

Yn ein hadroddiad ar oblygiadau ariannol y Bil, gwnaeth y Pwyllgor yr argymhelliad a ganlyn:

“Argymhelliad 16:  Mae'r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn rhannu ei ddadansoddiad o gostau a buddion sefydlu cyd-bwyllgorau corfforaethol pan fydd ei hadolygiad yn dod i ben. Os yw'n berthnasol, dylai Llywodraeth Cymru ystyried sut y gellid cyfrif am y wybodaeth hon mewn Asesiad Effaith Rheoleiddio diwygiedig.”

Er ein bod yn gwerthfawrogi eich bod wedi rhannu'r wybodaeth am yr adolygiad, nid oedd y Pwyllgor o’r farn ei bod wedi darparu dadansoddiad o gostau a buddion posibl Cyd-bwyllgorau Corfforaethol y gofynnwyd amdanynt yn ein hargymhelliad. Yn hytrach, mae'n darparu asesiad o wahanol fodelau cydweithredu sydd ar waith yn y DU.

Byddai'r Pwyllgor yn ddiolchgar o gael dadansoddiad mwy cadarn o gostau a buddion posibl Cyd-bwyllgorau Corfforaethol cyn gynted ag y bo modd.

 

 

 

Yn gywir,

 

Llyr Gruffydd MS / AS

Cadeirydd / Chair